Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 22 Mehefin
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3611
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 11 a 13. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 5 a 7, a 10 a 15 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM6031 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:
1. Yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 19; swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11; ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â Chronfa Gyfunol Cymru.
2. Yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 and 18.3 ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y cafodd adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM6049 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
(i) Mike Hedges (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid; a
(ii) Simon Thomas (Plaid Cymru) yn Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6029 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r heriau i'r gwasanaeth iechyd o ran gofalu am boblogaeth hŷn.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) symud ymlaen gyda mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol; a
b) cynyddu nifer y meddygon teulu, gan ganolbwyntio ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd o amddifadedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
4 |
11 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6032Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled Cymru.
2. Yn nodi â phryder yr ansicrwydd y mae diffyg eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o ran darparu gwasanaethau effeithiol.
3. Yn cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod nifer y bobl a wnaeth fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2012 yn isel, sef cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu amserlen dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gadarn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
5 |
7 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.16
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6030 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y byddai Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.14
Dechreuodd yr eitem am 18.17
NDM6033 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Aros neu adael?
Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE?
Daeth y cyfarfod i ben am 18.43
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2016